2011 Rhif 995 (Cy. 148)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Ebrill 2011 ac mae'n gymwys yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) drwy ymestyn y ddarpariaeth i gynyddu lefel rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i 30 Medi 2012. Dim ond i gategorïau penodol o drethdalwr a gwmpesir gan Orchymyn 2008 y mae'r ymestyniad i gael rhyddhad yn gymwys. 

 


2011 Rhif 995 (Cy. 148)

ardrethu a phrisio, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                               29 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       30 Mawrth 2011

Yn dod i rym                           22 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2011.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 22 Ebrill 2011.

(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008.

2.(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008([3]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.

(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.

(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2012” rhodder “30 Medi 2012”.

(5) Yn erthygl 11(e) yn lle “hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012” rhodder “am y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008 ac sy’n gorffen ar 30 Medi 2010,”.

(6) Ym mhennawd erthygl 11A (Y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 30 Medi 2011) yn lle “30 Medi 2011” rhodder “30 Medi 2012”.

(7) Yn erthygl 11A(2) yn lle “30 Medi 2011” rhodder “30 Medi 2012”.

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

 

29 Mawrth 2011

 



([1])           1988 p.41. Cafodd adran 43 ei diwygio gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 13 iddi (p.14); adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 ac Atodlen 1 iddi (p.29); adran 127 o Ddeddf Gwasanaethau'r Post 2000 ac Atodlen 8 iddi (p.26); adrannau 1 a 3 o Ddeddf Ardrethu (Cyn Fangreoedd Amaethyddol a Siopau Gwledig) 2001 (p.14); adrannau 61, 63 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26); ac adran 1177 o Ddeddf y Dreth Gorfforaethau 2010 ac Atodlen 1 iddi (p.4). Mewnosodwyd adran 43(4B) gan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Cafodd adran 44 ei diwygio gan adrannau 139 a 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac Atodlenni 5 a 12 iddi (p.42); gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 13 iddi (p.14); a chan adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).

([2])           Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 2008/2770 (Cy.246).